Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

Mark Drakeford AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

 

25 Hydref 2013


Annwyl Weinidogion,

 

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-15

 

Diolch am fod yn bresennol yn y Pwyllgor ar 17 Hydref 2013 i drafod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15. Roedd ein gwaith craffu yn canolbwyntio ar faterion a oedd yn effeithio ar bortffolio'r Pwyllgor, ac mae'r prif gasgliadau wedi'u hamlinellu yn y llythyr hwn.  Byddant yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan hefyd. Hefyd, caiff y llythyr hwn ei rannu â'r Pwyllgor Cyllid er mwyn ei helpu i graffu'n gyffredinol ar y gyllideb ddrafft.

Rydym wedi ceisio dosbarthu'r prif faterion yn ôl y pedair egwyddor sy'n sail i waith craffu ariannol da: fforddiadwyedd, blaenoriaethu, gwerth am arian a phroses y gyllideb.

Dyraniad refeniw ychwanegol i'r gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

(Egwyddor: blaenoriaethu)

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £180 miliwn ar gyfer 2014-15 a'r £240 miliwn ar gyfer 2015-16 i gefnogi'r GIG yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd y cyllid ychwanegol hwn i ymateb yn ddigonol i'r materion a drafodwyd yn Adroddiad Adolygiad Francis yn ddiweddar.

Esboniwyd gennych y byddai'r cyllid ychwanegol ar gyfer blynyddoedd 2014-15 a 2015-16 yn cael ei ddyrannu yn ôl cyfran y boblogaeth, ac y byddai elfen o fethodoleg Townsend yn y fformiwla o ran yr elfennau sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb.[1]Rydym yn croesawu'r modd y cafodd yr arian ei ddyrannu i'r Byrddau Iechyd Lleol, yn enwedig y ffaith eich bod wedi ceisio datrys y broblem o ddyrannu cyllid i'r Byrddau Iechyd Lleol hynny a wnaeth leiaf i fyw o fewn eu modd.[2] Fodd bynnag, byddai'r Pwyllgor yn falch o gael mwy o fanylion am yr hyn y credwch chi sy'n llwyddiant neu fethiant yn hyn o beth wrth wneud penderfyniadau dyrannu.  Hefyd, mae'r Pwyllgor am gael mwy o sicrwydd bod digon o sylw'n cael ei roi yn ystod y broses ddyrannu i effaith demograffeg - yn enwedig proffil oedran - ar anghenion iechyd unrhyw ardal Bwrdd Iechyd Lleol benodol.

Dyrannu cyllid i'r Byrddau Iechyd Lleol yn gyffredinol

(Egwyddor: proses y gyllideb)

Yr oedd y Pwyllgor eisoes wedi nodi bod ganddo bryderon am agweddau o'r model presennol o ariannu Byrddau Iechyd Lleol.  Rydym yn croesawu eich adolygiad o'r dyraniad adnoddau i'r Byrddau Iechyd Lleol, gan gynnwys datblygu fformiwla a all:

-     gael ei chymhwyso ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol, ac a all hefyd gefnogi'r Byrddau Iechyd Lleol i ddyrannu mwy o adnoddau yn lleol;

-     sicrhau bod ffactorau perthnasol fel demograffeg ac anghydraddoldebau yn cael eu hadlewyrchu yn y pwysoliad o anghenion.

O ystyried pwysigrwydd yr adolygiad hwn bydd y Pwyllgor yn cymryd diddordeb byw yn ei ddatblygiad.  Hoffem gael mwy o fanylion, pan fyddant ar gael, ynghylch sut y caiff system ariannu arfaethedig ei rhoi ar waith.  Byddwn yn monitro'r broses o ddyrannu cyllid i'r Byrddau Iechyd Lleol, a byddwn yn rhoi rhagor o ystyriaeth i'r modd y mae'r cyllid yn llifo yn y GIG yng Nghymru, fel rhan o'n rhaglen barhaus o graffu ariannol.  I'r perwyl hwn, byddwn yn croesawu brîff technegol gennych chi a'ch swyddogion ynghylch datblygu'r fformiwla arfaethedig.   

Rydym yn croesawu'r ffaith fod Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) wedi cael ei gyflwyno.  Bydd yn hollbwysig bod cynlluniau gwasanaeth y Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu gwerthuso a'u monitro yn ystod y cylch o dair blynedd er mwyn medru cynllunio'n realistig ac yn gynaliadwy yn y tymor canolig a'r tymor hir.  Cawsom ein sicrhau eich bod yn bwriadu cryfhau'r gweithdrefnau monitro ar gyfer cyllid Byrddau Iechyd Lleol o dan y Bil newydd, ac rydym yn croesawu eich bwriad i gynnwys y Pwyllgor yn y gwaith hwn.

 

Gwybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft

(Egwyddor: proses y gyllideb)

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud i eglurder y dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ac i'r modd y caiff ei chyflwyno.  Serch hynny, rydym yn parhau o'r farn fod angen mwy o wybodaeth ym mhapurau'r gyllideb er mwyn medru craffu ar y dyraniadau yn drylwyr.

Rydym yn croesawu'r sicrwydd a roddwyd gennych eich bod yn awyddus i ddarparu mwy o wybodaeth y flwyddyn nesaf i helpu'r Pwyllgor gyda'i waith craffu.  Hefyd, byddem yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ymdrech i ddarparu gwybodaeth ariannol fwy hygyrch, cyson a chymaradwy. Mae'r un argymhelliad yn gymwys i'r Byrddau Iechyd Lleol o ran yr adroddiadau a'u cynlluniau ariannol sydd ar gael i'r cyhoedd, oherwydd nid oes cysondeb, i bob golwg, yn y modd y caiff y rheini eu llunio.  Argymhellwn hefyd fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddyd a chymorth i Fyrddau Iechyd Lleol yn hyn o beth fel y gall pob un ohonynt lunio adroddiad ar yr un sail er mwyn cael mwy o dryloywder yn yr wybodaeth ariannol sydd ar gael yn gyhoeddus.

Cyfalaf

(Egwyddor: fforddiadwyedd)

Yn ein llythyr at y Pwyllgor Cyllid y llynedd gofynnwyd am wybodaeth i ddangos bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ad-drefnu'r gwasanaeth gan gadw o fewn y dyraniadau cyfalaf.  Eleni, lleddfwyd ein pryderon gan eich hyder fod y rhaglen gyfalaf yn cael ei chysoni â'r cynlluniau i ad-drefnu'r gwasanaeth ledled Cymru.   Rhaid i'r cysylltiad cynhenid rhwng y cynlluniau i ad-drefnu'r gwasanaeth a'r dyraniadau cyfalaf barhau'n rhan o gynlluniau ariannol y Byrddau Iechyd Lleol a'r Llywodraeth.  Byddwn yn parhau i fonitro hyn fel rhan o'n rhaglen o graffu ariannol.

O ddarllen dogfen naratif Llywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb ddrafft, nodwn fod dulliau arloesol o godi cyllid cyfalaf yn cael eu henwi mewn portffolios eraill.  Rydym yn croesawu'r cadarnhad a gawsom gennych eich bod yn gweithio gyda'r Gweinidog Cyllid i ganfod dulliau amgen posibl o godi cyfalaf yn eich portffolio, ac rydym yn cydnabod mor bwysig yw datblygiadau o'r fath yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.  Byddem yn falch o gael mwy o fanylion am yr opsiynau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd.  Hefyd, byddai'n dda cael eglurder ynghylch pa bryd y cred y Llywodraeth y gall fod angen gwneud newidiadau deddfwriaethol er mwyn cael mwy o gyfle i fabwysiadu dulliau arloesol o godi cyfalaf o fewn y portffolio.

Cysoni â'r Rhaglen Lywodraethu

(Egwyddor: blaenoriaethu)

Yn ystod proses y gyllideb ddrafft y llynedd, aethom ati i danlinellu ein  pryderon ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu o fewn y dyraniadau a bennwyd ar gyfer 2013-14.  Yn benodol, gofynnwyd am fwy o wybodaeth gennym am:

-     y costau sy'n gysylltiedig â'r archwiliadau iechyd arfaethedig i bobl dros 50 oed - a'r canlyniadau a ragwelir; 

-     y modd y byddai'r gwariant presennol yn cael ei ailalinio er mwyn estyn oriau agor meddygfeydd.

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu mwy o eglurder am y canlyniadau a ragwelir yn achos y gwiriadau iechyd arfaethedig ar gyfer pobl dros 50 oed.  Byddai hefyd yn croesawu asesiad o'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i gyflawni'r bwriad i ehangu'r cynllun i leoliadau cymunedol yn y dyfodol.

Fe wnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor y bydd y cyllid ar gyfer cynyddu mynediad i wasanaethau meddygon teulu y tu allan i'r oriau contract yn dod o'r adnoddau presennol.  Byddai hynny'n cael ei wneud drwy adolygu ac ailalinio'r arian sy'n cael ei wario ar hyn o bryd ar wasanaethau ychwanegol.  Byddai'r Pwyllgor yn falch o gael mwy o eglurder ynghylch pa wasanaethau ychwanegol a fydd yn colli buddsoddiad er mwyn ariannu'r polisi hwn.  Bydd y Pwyllgor hefyd am weld sut yr asesir effaith unrhyw arian sydd wedi'i ailalinio.

Deddfwriaeth

(Egwyddor: fforddiadwyedd/gwerth am arian)

Wrth graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 1 ystyriwyd y darpariaethau ariannol a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r Bil.  Yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y Bil yn niwtral o ran cost yn y tymor hir, er y byddai rhywfaint o gyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i dalu am y costau gweithredu cychwynnol.   Byddai'r cyllid ychwanegol hwn yn £3 miliwn, yn ogystal â'r gyllideb hyfforddi ar gyfer staff gwasanaethau cymdeithasol. 

Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, gan gynnwys tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cwestiynu a fyddai'r Bil yn niwtral o ran cost.  Hefyd, roedd peth pryder ynghylch a yw'r dyraniadau'n ddigonol ar gyfer gweithredu'r Bil.  Rydym yn croesawu adolygiad y Dirprwy Weinidog o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yng Nghyfnod 2, ond mae gennym bryder o hyd y gallai fod angen cyllid ychwanegol i wireddu nodau ac amcanion y Bil yn llawn. Nodwn y byddai rhagor o wybodaeth ariannol fanwl ar gael yn gynt yn y broses ddeddfwriaethol yn helpu'r Pwyllgor i graffu.

Mae'r Pwyllgor yn parhau'n ymwybodol o'r angen i sicrhau bod y costau sy'n gysylltiedig â gweithredu deddfwriaeth yn cael eu rhagamcanu'n ddigonol, a bod cynlluniau wrth gefn i dalu unrhyw gostau ychwanegol na chafodd eu rhagweld.  Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod cronfa wrth gefn gyffredinol o £25 miliwn ar gael ar gyfer 2014-15. Byddwn yn monitro sut y caiff hyn ei ddefnyddio ledled y flwyddyn fel rhan o'n rhaglen o graffu ariannol.

Gwariant ataliol

(Egwyddor: blaenoriaethu/gwerth am arian)

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth am wariant ataliol o fewn y portffolio.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod atal yn rhan o sawl elfen o'r gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i brofi rhaglenni i sicrhau eu bod yn cyflawni'u hamcanion, a'u bod yn werth yr arian.  Roeddem yn falch o glywed am eich agwedd gadarnhaol tuag at ail-gyfeirio cyllid lle dengys y dystiolaeth bod modd ei ddefnyddio'n well mewn man arall.   Gwelwyd eich dull o weithredu ar waith yn achos adolygiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru o'i raglenni gwella iechyd yng Nghymru.  Arweiniodd yr adolygiad at newid y flaenoriaeth o blaid ariannu rhaglenni gordewdra ymhlith plant. Croesawn yr arfer sydd ar gynnydd o asesu rhaglenni presennol, a'r parodrwydd i newid y flaenoriaeth ariannu o blaid gwasanaethau neu raglenni a all ddangos tystiolaeth eu bod yn rhoi gwell gwerth am arian.  Argymhellwn fod penderfyniadau o'r fath yn cael eu cyhoeddi, ynghyd â'r dystiolaeth a arweiniodd atynt.

Yn ogystal â'r themâu uchod, cododd y meysydd pwysig canlynol wrth inni graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2014-15:

-     Risgiau ariannol sy'n gysylltiedig ag ariannu gofal iechyd parhaus yn y GIG.

Yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG[3], daethpwyd i'r casgliad ei bod yn bosibl na chaiff yr ôl-hawliadau am gostau a godwyd yn anghywir ar unigolion rhwng 1996 a 2003 eu clirio erbyn mis Mehefin 2014.  Serch hynny, yr ydym yn nodi eich hyder i'r gwrthwyneb.  Byddem yn falch o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd a wneir yn y maes hwn, oherwydd gallai unrhyw hawliadau annisgwyl effeithio ar y dyraniadau.

-     Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Nodwn ichi ddatgan fod proses genedlaethol IPFR yn cael ei hystyried. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i gael esboniad am oblygiadau ariannol polisi o'r fath, a rhagor o wybodaeth am ganlyniadau posibl hynny ar gyfer dyraniadau'r Byrddau Iechyd Lleol.

-     Y ddarpariaeth ar gyfer gofal cymdeithasol

Yn ein llythyr at y Pwyllgor Cyllid y llynedd, yr oeddem yn croesawu'r ffaith fod Gweinidogion yn ystyried ei bod yn bwysig i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gydweithredu.  Felly, rydym yn croesawu'r dyraniad o £50 miliwn i greu'r Gronfa Gofal Canolraddol. Nodwn fod yr arian hwn ym Mhrif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol a Phrif Grŵp Gwariant Tai ac Adfywio. Rydym yn falch fod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i roi nodyn pellach i'r Cyngor ynghylch y modd y gwneir y penderfyniadau dyrannu sy'n ymwneud â'r Gronfa.  Hefyd, rydym yn croesawu bwriad y Dirprwy Weinidog i ymgynghori ynghylch trefniadau'r dyfodol ar gyfer yr uchafswm o £50 yr wythnos o daliadau gofal cartref.

-     Y dyraniad a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl

Cafodd y cyfyngiadau sy'n ymwneud â monitro i ba raddau y cydymffurfir â'r dyraniad a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru fel rhan o broses y gyllideb ddrafft y llynedd.  Serch hynny, sicrhawyd y Pwyllgor fod y gwariant yn y blynyddoedd blaenorol yn uwch na'r swm a glustnodwyd.  Nodwn y bydd y dyraniad a glustnodwyd yn parhau tan o leiaf 2015, pryd y bydd adolygiad ohono'n cael ei wneud.  Mae'r Pwyllgor yn debygol o gynnal ymchwiliad i faes iechyd meddwl yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn, ac fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw mae'n bosibl yr ystyrir pa mor effeithiol yw’r dyraniad a glustnodwyd.

Gobeithio bod yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol. Byddai'r Pwyllgor yn falch o gael rhagor o esboniad, lle nodwyd bod angen hynny, cyn gynted ag y bo modd. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei rannu â’r Pwyllgor Cyllid er mwyn cynorthwyo ei waith craffu cyffredinol ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

 

Yn gywir,

 

 

David Rees AC

Cadeirydd

 

Wedi’i gopïo i Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cofnod drafft o’r trafodion 17 Hydref 2013

[2] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cofnod drafft o’r trafodion 17 Hydref 2013

[3] Swyddfa Archwilio Cymru, Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, Mehefin 2013 [fel ar 24 Hydref 2013]